Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad: CLA(4)-07-12 : 26 Mawrth 2012

 

Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:

 

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol

 

CLA111 - Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 6 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 8 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2012

 

CLA 112 - Rheoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 7 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 8 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2012

 

CLA113 - Rheoliadau Tiroedd Comin (Gorchmynion Dadgofrestru a Chyfnewid) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 7 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 8 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2012

 

CLA114 - Rheoliadau Dadgofrestru a Chyfnewid Tir Comin a Meysydd Tref neu Bentref (Gweithdrefn) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 7 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 8 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2012

 

CLA115 - Gorchymyn Cyngor Partneriaeth Cymru (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2012

 

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed ar: 7 Mawrth 2012.

Fe’i gosodwyd ar: 9 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 3 Ebrill 2012

 

CLA116 - Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed ar: 7 Mawrth 2012.

Fe’i gosodwyd ar: 9 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2012

 

CLA117 - Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 7 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 9 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2012

 

CLA118 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (Diwygio) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 10 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 13 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 30 Ebrill 2012

 

CLA119 - Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 10 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 13 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 30 Ebrill 2012

 

CLA120 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 10 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 13 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 30 Ebrill 2012

 

CLA121 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 10 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 13 Mawrth 2012.

Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1

 

CLA122 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

 

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed: 10 Mawrth 2012.

Fe’i gosodwyd: 13 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 30 Ebrill 2012

 

CLA125 - Rheoliadau Swyddogion Awdurdodedig (Archwilio Cig) (Dirymu) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 13 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 15 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 6 Ebrill 2012

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol

 

Dim

 

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol

 

Dim

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol

 

Dim

 

Gorchmynion a wnaed o dan Fil Cyrff Cyhoeddus 2011

 

CLA CM2 - Memorandwm Cydsyniad ar gyfer Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012

 

Trafododd y Pwyllgor CLA CM1 - Memorandwm Cydsyniad ar gyfer Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012. Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad nad oedd wedi canfod unrhyw reswm pam y dylid gwrthod rhoi cydsyniad i’r Gorchymyn.

 

CLA CM3 - Memorandwm Cydsyniad ar gyfer Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012

 

Trafododd y Pwyllgor CLA CM3 - Memorandwm Cydsyniad ar gyfer Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012. Er ei bod yn ymddangos, ar sail gyfreithiol a chyfansoddiadol, nad oes dim rheswm y dylid gwrthod rhoi cydsyniad i’r Gorchymyn, roedd pryderon ynghylch a oedd y Memorandwm Cydsyniad yn darparu digon o wybodaeth, yn arbennig o ran cwmpas y Gorchymyn a’i berthynas â chymhwysedd deddfwriaethol eang y Cynulliad, i ganiatáu i’r Pwyllgor (a phwyllgorau eraill) ei ystyried yn iawn. Er nad oedd y Pwyllgor yn argymell gwrthod rhoi cydsyniad i’r Gorchymyn, cytunodd i adrodd fod ganddo nifer o bryderon ynghylch cywirdeb y wybodaeth a nodir yn y Memorandwm Cydsyniad. 

 

Busnes Arall

 

Ymchwiliadau'r Pwyllgor: Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Grŵp Ymchwil Astudiaethau Datganoli, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, a oedd yn cael ei gynrychioli gan Dr Alison Mawhinney, Darlithydd yn y Gyfraith, Ms Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith a Mr Huw Pritchard, Ymgeisydd Doethurol.

 

Penderfyniad i gwrdd yn breifat

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi) penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod tystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn yn yr Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru.

 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

26 Mawrth 2012